![]() |
|
|
| Hafan |
||
|
|
Newyddion a Digwyddiada Curo’r Dirwasgiad! Mae sefydliadau lleol wedi dod at ei gilydd i geisio curo’r dirwasgiad drwy hyrwyddo swyddi a chyfleoedd hyfforddi o ansawdd ar draws Sir Dinbych a Chonwy. Cynhelir Digwyddiad Swyddi am ddim yn Neuadd y Dref, Y Rhyl ar ddydd Sadwrn 8 Mai 2010 o 10yb - 3yp. Bydd sefydliadau sector cyhoeddus a lleol allweddol yn codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd gwaith lleol ac yn darparu cefnogaeth ymarferol i bobl leol o bob oedran sy’n chwilio am waith. Mae sefydliadau a gaiff eu cynrychioli’n cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Coleg Llandrillo Cymru, Heddlu Gogledd Cymru a Grŵp Tai Pennaf ynghyd â chymdeithasau gwirfoddol, Canolfan Byd gwaith, Gyrfa Cymru a chyflogwyr allweddol lleol eraill. Gall aelodau o’r cyhoedd siarad gyda chynrychiolwyr cyflogwr neu fynychu gweithdai a gaiff eu rhedeg drwy gydol y dydd. Bydd y rhain yn darparu help a chyngor ar sut i ddychwelyd i waith, sut i ddarganfod y swydd gyntaf pwysig, cyngor ar sut mae gwaith yn effeithio ar fudd-daliadau a gwybodaeth am brentisiaethau. Mae mynediad am ddim – felly os hoffech chi ddysgu am ymgeisio am swyddi a beth sydd ar gael yn lleol, yna dyma’r lle i fod! Gall unrhyw gyflogwr lleol sydd â swyddi gwag gysylltu ag unai Lorna Lockwood, Cynorthwy-ydd Personél, Coleg Llandrillo Cymru, ar l.lockwood@llandrillo.ac.uk neu Jane Cater, Rheolwraig Digwyddiad, Coleg Llandrillo Cymru ar j.cater@llandrillo.ac.uk os hoffent stondin yn y digwyddiad neu i yrru manylion y swydd wag i’r bwrdd swyddi. Crëwyd gwefan ar gyfer Bwrdd Gwasanaeth Lleol Conwy www.conwylsb.org.uk sy’n darparu gwybodaeth bellach am waith a chyfleoedd hyfforddiant. Caiff y digwyddiad ei ariannu gan gronfa Datblygiad Bwrdd Gwasanaeth Lleol Llywodraeth Cynulliad Cymru a’i drefnu gan Fyrddau Gwasanaeth Lleol Conwy a Sir Ddinbych.
|
|
![]() |