![]() |
|
|
| Hafan |
||
Cyngor Bwreistref Sirol Conwy |
Prentisiaethau Mae prentisiaethau yn raglenni a ariannir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddysgwyr mewn gwaith.
Gall prentisiaid fod yn unrhyw oedran gyda hyfforddiant yn cael ei ddarparu yn y gweithle ar fframweithiau o gymwysterau o lefel 2-4 sy’n gysylltiedig i waith. Mae fframwaith fel arfer yn cynnwys NVQ mewn llwybr galwedigaethol priodol e.e. Gweinyddiad Busnes neu Wasanaeth Cwsmer, gyda sgiliau allweddol a Thystysgrif Technegol. Caiff yr hyfforddiant ei ddarparu yn y gweithle gan aseswyr o Goleg neu Ddarparwr Hyfforddiant Preifat gyda rhai dysgwyr yn mynychu rhyddhad diwrnod yn ddibynnol ar y llwybr galwedigaethol a ddewiswyd. Dylai prentisiaid fod: mewn gwaith llawn amser neu'n sylweddol (16 awr a mwy yr wythnos) Mae rhaglen dysgu cyn–prentis ar gael i ddysgwyr o dan lefel 2 a chaiff pob gweithle archwiliad iechyd a diogelwch gan y darparwyr hyfforddiant. Weithiau gall Colegau a Darparwyr Hyfforddiant Preifat helpu pobl i ddod o hyd i waith i gynnal prentisiaethau. Llwybrau Datblygiad
Partneriaeth
|
|
![]() |